Cyfrol yn olrhain bywyd Lynette White - byd o gyffuriau a pherthynas â dynion treisiol - ac achos cam-ddyfarnu pum gŵr lleol, tywyll eu croen o'i llofruddio. Portreadir newidiadau ym Mae Caerdydd a Tiger Bay ynghyd â diwylliant o hiliaeth a llygredd ymlith yr heddlu, a gwelir sut y datryswyd dirgelwch y llofruddiaeth gan orchudd cellophane pecyn sigarennau gwag. -- Cyngor Llyfrau Cymru