Cofiant anhepgor i 'Gymraes fwyaf yr ugeinfed ganrif', fel y disgrifir Kate Roberts gan yr awdur. Mae'n gofiant di-ofn o onest a hynod o ddadlennol (trwy ddyfynnu o'i dyddiaduron), ac mae manylder ymchwil ac ehangder gwybodaeth Alan Llwyd yn taflu goleuni newydd ar 'Frenhines ein Llên'. Mae fersiwn clawr meddal hefyd ar gael, ISBN 9781847713933. -- Cyngor Llyfrau Cymru