Y gyntaf mewn trioleg o nofelau gan Wiliam Owen Roberts. Nofel wedi ei lleoli yn Rwsia ac Ewrop yw Petrograd. Mae'r stori yn dechrau yn ystod haf 1916, ac yn ymwneud â hanes dau deulu sydd yn gorfod wynebu'r newidiadau personol a gwleidyddol sydd yn gwyrdroi eu bywydau yn sgil y Chwyldro yn 1917. Ail argraffiad; cyhoeddwyd gyntaf Rhagfyr 2008. -- Cyngor Llyfrau Cymru